

Gwasanaethau CladduCyd Awdurdod Claddedigaethau LlanelliMae Cyd Awdurdod Claddedigaethau Llanelli yn cynnwys Aelodau Cynghorau Gwledig Llanelli a Thref Llanelli ac mae’n gweinyddu Mynwent Ardal Llanelli - mynwent 32 erw yn Heol Abertawe, Llanelli. Mae’r fynwent yn darparu ar gyfer anghenion pobl Llanelli a'r ardal a hi yw’r unig fynwent gyhoeddus yn y dref. Mae dros 22,000 o feddau yn y fynwent ac aiff y claddedigaethau yn ôl i 1850. Mynwent Ardal Llanelli
YsgrifennyddMr M Galbraith Ffôn: 01554 774103 Oriau Agor y Swyddfa:Dydd Llun i Ddydd Iau 8:30 am - 4:00 pm
Mynwent Ardal LlanelliMynediad i’r CyhoeddMae Mynwent Ardal Llanelli ar agor i’r cyhoedd yn ystod yr oriau canlynol: Hydref i Chwefror (Gaeaf)Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.00 am i 5.00 pm Mawrth i Fedi (Haf)Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.00 am i 6.00 pm Mynediad i gerddwyr yn unig y tu allan i’r amserau hyn.Gwybodaeth BellachTrafnidiaeth GyhoeddusY briffordd agosaf at y fynwent yw’r A484. Mae’r orsaf rheilffordd 2 filltir i ffwrdd ac mae’r ganolfan fysiau agosaf ½ milltir i ffwrdd. CŵnDywed y gyfraith a rheoliadau’r Cyngor fod rhaid cadw cŵn ar dennyn ar hyd yr amser ac na ddylid gadael iddynt faeddu yn nhir y fynwent. Cyfleusterau CapelMae gan Fynwent Ardal Llanelli gapel, sy’n gallu eistedd hyd at 80 o bobl. Ceir ramp mynediad ar gyfer pobl sy’n cael anhawster i symud o gwmpas. Mae gan y Capel hefyd organ ar gyfer y sawl sy’n dymuno cael cyfeiliant cerddorol i’w seremoni. Mae gan y Fynwent gyfleusterau parcio. Ceir siop meini coffa'r drws nesaf i swyddfa’r fynwent. BeddauFel arfer rhaid cynnal claddedigaethau yn unol â’r rheoliadau a rhwng Dydd Llun Dydd Iau 9.00 am-2.30 pm a Dydd Gwener 9.00 am-1.30 pm. Claddedigaethau & Ac Ar Ôl CladdedigaethauCladdedigaethauMae Mynwent Ardal Llanelli yn cynnig Claddedigaethau Lawnt, Claddedigaethau Cwrbyn Llawn yn ogystal â chladdu llwch. Claddedigaethau LawntMae’r dewis hwn yn caniatáu ichi osod carreg goffa ar ben y bedd. Rhoddir gwair ar weddill llecyn y bedd, ac ychydig fisoedd ar ôl y gladdedigaeth wedi i’r tir sefydlogi, caiff y llain ei wastatau fel y gellir torri’r gwair i safon uchel. O hynny ymlaen ni chaniateir cawgiau a theyrngedau blodau ar wair llecyn y bedd. Claddedigaethau Cwrbyn LlawnMae hyn yn caniatáu maen coffa bychan fel cawg, llechen neu faen coffa a chynllun sylfaen ar gyfer y bedd. Mae’n cynnig llawer mwy o hyblygrwydd nac yn ein llecynnau lawnt, ac yn cynnig llawer mwy o amrywiaeth o ran cynllun y meini coffa. Unig Hawl CladdedigaethGellir prynu Unig Hawl Claddedigaeth ar unrhyw adeg. Ar ôl profedigaeth bydd y Trefnydd Angladdau fel arfer yn awgrymu hyn mae’n golygu y gall aelodau teulu gael eu claddu gyda’i gilydd ac y gellir gosod maen coffa ar y bedd. Ar ôl y GladdedigaethCyn gynted ag y mae’n ymarferol bydd y bedd yn cael ei wastatau ac fe roddir gwair arno. Gall hynny gymryd cryn dipyn o amser, gan ddibynnu ar adeg y flwyddyn a chyflwr y tir. Teyrngedau BlodauGellir gosod teyrngedau blodau, torchau ac ati ar y bedd ar ddiwrnod y gladdedigaeth a gall perthnasau eu symud oddi yno yn ddiweddarach. Cofiwch, fodd bynnag, ei bod yn bosib y bydd rhaid i staff y fynwent symud teyrngedau blodau ar ôl saith niwrnod. Ffïoedd & ThaliadauEr mwyn gweld rhestr gyfredol o ffioedd a thaliadau, gwasgwch yma.
|