Mai 25th, 2017

Arwain y Ffordd

Arwain y ffordd: dyna’r neges oddi wrth y Cynghorydd Tegwen Devichand yn dilyn cael ei hail-ethol yn ddiweddar fel Arweinydd y Cyngor gyda Chyngor Gwledig Llanelli, yn dilyn yr etholiadau lleol.

 

Ail gadarnhaodd y Cyngor benodiad y Cyngh Devichand fel Arweinydd yn ei gyfarfod blynyddol. Croesawodd y Cyngor hefyd saith aelod newydd i’r gorlan ac roedd y Cyngh Devichand yn llawn brwdfrydedd am y dyfodol a faint yr edrychai hi ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau diweddar trwy helpu i arwain y cyngor newydd i oruchwylio ei waith datblygu cymunedol ardderchog

 

Dywedodd y Cyngh Devichand  … “Rydw i’n falch iawn fy mod wedi fy enwebu unwaith eto fel Arweinydd cyngor mor arloesol a blaengar. Rydyn ni wedi cyflawni cymaint dros y pum mlynedd diwethaf  petai dim ond am y trosglwyddo asedau o nifer o gyfleusterau cymunedol pwysig o Gyngor Sir Caerfyrddin yn cynnwys rhai megis Parc Dafen, Tir Hamdden Pwll, Caeau Chwarae Trallwm yn ogystal â nifer o ardaloedd chwarae lleol. Mae ymyrraeth y cyngor wedi golygu y gallwn ddiogelu y mannau chwarae pwysig hyn oddi wrth y bygythiad o gael eu cau. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r holl aelodau a etholwyd ar y cyngor newydd i gyflawni mwy o welliannau i’r gymuned.

 

“Bydd y cyngor yn parhau gyda’r agenda cydweithio pwysig trwy weithio’n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli. Er mwyn gwneud hyn, fe barhawn i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw tiroedd i gyngor y dref ar gyfer y parciau a’r caeau chwarae y trosglwyddwyd eu hasedau oddi wrth y cyngor sir. Mae gennym gynlluniau hefyd i barhau i gydweithio gyda’r cyngor sir yn y gobaith o drosglwyddo’r cyn Ganolfan Addysg yn Llwynhendy ynghyd â’r cyn Ganolfan Addysg yn Pwll. Mae gan y cyngor gynlluniau i drawsnewid yr adeiladau hyn yn ganolfannau cymunedol sydd eu mawr angen yn ogystal â chreu ardal chwarae newydd yng Nghaeau Gwili, Llwynhendy.

 

“Mae yna lawer i edrych ymlaen ato ac mae ein ffocws i gyd ar greu gwelliannau o safon er mwyn cael effaith positif ar les lleol. Fe geisiwn atgyfnerthu ac ychwanegu gwerth i’r cyfleusterau hynny a drosglwyddwyd yn ddiweddar oddi wrth y cyngor sir yn ogystal â cheisio ymestyn ein gafael ar y gymuned ymhellach trwy ddatblygu prosiectau cymunedol penodol gyda chyrff allanol. Bydd y gwaith ar ein Cynllun Lle Cyfan yn parhau gyda ni’n mynd i’r afael â nifer o ymyriadau cymunedol trwy hyrwyddo creu bydis stryd a mentrau wardeiniaid llifogydd cymunedol a hefyd hyrwyddo gwirfoddoli yn y gymuned trwy fenter credydau amser y cyngor.  Rhwng popeth, mae yna lawer i edrych ymlaen ato yn ystod oes y cyngor newydd.”

Print Friendly, PDF & Email