Tudalen Wybodaeth

Mae gan y Cyngor 21 aelod etholedig, yn cynrychioli 7 ward ac mae’n cyfarfod ar yr ail nos Fawrth (6.00 pm) bob mis ac eithrio mis Awst.

Mae pwyllgorau sefydlog hefyd yn cyfarfod (4.45 pm) bob mis ac eithrio mis Awst, fel a ganlyn:

Pwyllgor Cyllid a Materion Cyffredinol:
Pwyllgor Cynllunio a Chyswllt:
Pwyllgor Polisi ac Adnoddau
Pwyllgor Hamdden a Lles:

Cadeirydd
Arweinydd y Cyngor
Clerc y Cyngor:

Dydd Mercher olaf y mis
bob 3ydd Dydd Llun
3ydd Dydd Mercher y mis
3ydd Dydd Mawrth y mis

Councillor M. L. Davies
Cynghorydd T J Jones
Mark Galbraith ACIS

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i annog datblygu cymunedol yn ogystal â chynnig llais lleol i’r cymunedau y mae’n eu cynrychioli.

Mae presept y Cyngor ar gyfer 2007/2008 yn £855,850 sy’n cyfateb i £116.20 am bob eiddo band D. Ers sefydlu’r Cyngor, mae wedi adeiladu a chynnal a chadw naw neuadd gymunedol. Mae’n gofalu am dri pharc ble y chwaraeir rygbi, pêl droed a chriced yn rheolaidd, ac mae hefyd yn gofalu am chwe llecyn chwarae i blant. Mae’r Cyngor yn gwasanaethu clybiau cinio ac yn darparu gwyliau blynyddol am bris gostyngol i’r henoed. Mae’n cynnig grantiau i gyrff gwirfoddol ac elusennol ac yn darparu cyfleoedd profiad gwaith a swyddi trwy ei Adran Hyfforddiant. Ceir rhestr lawn o wasanaethau o dan adran ‘Gwasanaethau’ y wefan.

Derbyniodd y Cyngor wobr Ffit i Weithio oherwydd ei agwedd gadarnhaol tuag at bobl anabl.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth o ansawdd a chadarnhawyd yr ymrwymiad hwnnw trwy ei System Rheoli Ansawdd. Derbyniodd Safon Ryngwladol EN ISO 9001:2000 ac mae wedi ymrwymo i raglen o welliant parhaus. Arweiniodd hynny yn ei dro at gydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl ac mae’r Cyngor yn cael ei gydnabod yn swyddogol yn gorff Buddsoddwr mewn Pobl.